Croeso i'r Wiciadur Cymraeg, prosiect cydweithredol i greu geiriadur amlieithog a'r cynnwys i gyd yn rhad ac am ddim.
Yn wreiddiol, nod Wiciadur oedd i fod yn gydymaith geiriol i Wicipedia, y prosiect gwyddoniadurol, a'n nod yw fod Wiciadur yn tyfu i fod yn llawer mwy na geiriadur cyffredin. Ein gweledigaeth yw fod Wiciadur yn cynnwys thesawrws, odliadur, llyfrau ymadrodd, ystadegau ieithyddol a mynegai cynhwysfawr. Anelwn at gynnwys, nid yn unig diffiniad y gair, ond digon o wybodaeth i chi wir ddeall ystyr y gair. O ganlyniad caiff etymolegau, ynganiadau, dyfyniadau engreifftiol, cyfystyron, gwrthwynebeiriau a chyfeithiadau eu cynnwys.
Mae'r Sefydliad Wicifryngau (Wikimedia Foundation) yn darparu nifer o brosiectau arlein rhydd eraill yn ogystal â Wicipedia, mewn llwyth o ieithoedd. Maent i gyd yn wicïau, sy'n golygu bod pawb yn cael eu hysgrifennu, eu golygu a'u darllen. Sefydlwyd Wicifryngau yn 2003 gan Jimmy Wales, ac fe'i gweinyddir yn Fflorida. (Mwy am Wicifryngau)
Meta-Wici Canolbwynt prosiectau'r Sefydliad: yn cynnwys gwybodaeth am y Sefydliad, ei brosiectau a'r feddalwedd MediaWici.
Wicipedia Y gwyddoniadur rhydd, yn cynnwys erthyglau ar ystod eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wicillyfrau Casgliad o werslyfrau a llawlyfrau er mwyn dysgu ieithoedd, gwyddorau, celfyddydau, gwyddoniaeth, chwaraeon, a mwy.
Comin Wicifryngau Ystorfa ffeiliau amlgyfrwng (delweddau, ffeiliau sain a chlipiau fideo) a ddefnyddir gan yr holl brosiectau.
Wicitestun Casgliad o destunau a dogfennau Cymraeg sydd yn y parth cyhoeddus, yn cynnwys cerddi, caneuon, llyfrau, areithiau, adroddiadau, a mwy.
Wicibywyd Cyfeiriadur rhydd o'r holl rywogaethau, sydd yn dangos dosbarthiad tacsonomig organebau byw.
Wikiquote Casgliad Cymraeg o ddyfyniadau o bob iaith.
Prosiectau Wicifryngau nad ydynt ar gael yn Gymraeg: