Tywysog Cymru

Gweler hefyd: Brenin & Tywysog Cymru.

Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn[1], ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydliad Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr.

Cerflun o Owain Glyn Dŵr yng Nghorwen.

Tywysogion Cymru brodorolgolygu

Cofeb Llywelyn ein Llyw Olaf, Cilmeri. Tywysog olaf Cymru cyn rheolaeth Saesnig

Bu tueddiad i ddefnyddio'r gair Tywysog am reolwyr Cymru o tua 1200 ymlaen. Cyn hynny defnyddiwyd y gair brenin hyd yn oed gan groniclwyr Lloegr. Daeth Owain Gwynedd i ddefnyddio'r teitl princeps Wallensium (tywysog y Cymry) erbyn diwedd ei oes. Disgrifir ei fab Dafydd ab Owain Gwynedd fel princeps Norwalliae (tywysog gogledd Cymru) a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth fel proprietarius princeps Sudwalie, (priod dywysog de Cymru). Mae John Davies (hanesydd) yn ei gyfrol Hanes Cymru yn pwysleisio nad yw newid teitl o frenin i dywysog yn golygu lleihad yn eu statws o angenrheidrwydd. Ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' yw "un sy'n tywys, arweinydd, rheolwr" neu'n llythrennol "un sydd ar y blaen, un sy'n arwain." Defnyddiai Llywelyn Fawr y teitl "Tywysog Gogledd Cymru". Nod pob un o'r tywysogion hyn oedd i benarglwyddiaethu ar Gymru gyfan. Y rhai yn eu plith a lwyddodd i ddod yn benarglwyddi a de facto tywysogion Cymru oedd Owain Gwynedd, Rhys ap Gruffudd a Llywelyn Fawr; ond Llywelyn ap Gruffudd a lwyddodd i sefydlu Tywysogaeth Cymru. Sefydlwyd Tywysogaeth Cymru ym 1267 gan Lywelyn ap Gruffudd gyda chydnabyddiaeth Brenin Lloegr a'r Pab.

Owain Glyndwrgolygu

Arfbais Owain Glyndwr.

Fe arweiniodd Owain Glyndwr wrthryfel yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr ym 1400 a chafodd ei gydnabod gan frenin Ffrainc. Ffurfiodd Owain gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Caergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o bileri pwysicaf y genedl.

Rhestr Tywysogion Cymru Brodorolgolygu

LlunEnwauTeyrnas gwreiddiolTeitl a nodiadauBlynyddoedd â thystiolaethManylion marw
Defnyddiwyd y term Brenin Cymru neu Brenin y Brythoniaid cyn y cyfnod hwn
Gruffudd ap CynanGwyneddTywysog...y Cymry oll[2]1136[2]

(Yn ôl Brut y Tywysogion)

Bu farw yn 1137 yn 81-82 mlwydd oed.
Owain ap Gruffudd

Owain Gwynedd

GwyneddTywysog Cymru[3]

Tywysog y Cymry; y person cyntaf i ddefnyddio'r arddull hon i ddynodi annibyniaeth, sofraniaeth a goruchafiaeth dros lywodraethwyr brodorol eraill[4][5][6]

~1165[5][6]Bu farw yn 1170 yn 69-70 mlwydd oed.
Rhys ap Gruffydd

Yr Arglwydd Rhys

DeheubarthTywysog Cymru[7]1165[8]

1184[8]

1197[9][8]

Bu farw yn 1197, yn 65 mlwydd oed.
Llywelyn ap Iorwerth

Llywelyn Fawr

GwyneddTywysog Cymru[10]

Cyfeirir ato gan groniclwyr Cymraeg a Saesneg fel "Tywysog Cymru". Daliodd "dywysogaeth" Cymru ond defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac arglwydd yr Wyddfa", gydag Aberffraw yn awgrymu goruchafiaeth dros Gymru gyfan a gwrogaeth gan bob Brenin arall[11]

1240[2]

(Yn ôl Brut y Tywysogion)

Bu farw yn 1240 yn 66-67 mlwydd oed.
Dafydd ap LlywelynGwyneddTywysog Cymru[3][12]1245[12]Bu farw yn sydyn yn 1246, yn 33 mlwydd oed.
Llywelyn ap Gruffudd

Llywelyn ein Llyw Olaf

GwyneddTywysog Cymru[3][13]1255[2]1258, 1262, 1267[14]Lladdwyd gan filwyr o Loegr dan gochl trafodaethau heddwch ar 11 Rhagfyr 1282 yn 59 oed. Parêdiwyd ei ben ar bolyn o amgylch Llundain a'i roi ar dwr Llundain.[15]
Dafydd ap GruffyddGwyneddTywysog Cymru[3]1282[3][16], 1283[17]Llusgwyd drwy'r stryd gan geffyl cyn cael ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteri yn Amwythig ar 3 Hydref 1283 ar ôl cael ei ddal gan filwyr Lloegr. Rhoddwyd ei ben ar bolyn wrth pen ei frawd.
Rheolaeth Saesnig yn dechrau ar ôl lladd Llywelyn & Dafydd ap Gruffydd
Madog ap LlywelynGwyneddTywysog Cymru[3]1294[3][18]Cadwyd yn garcharor yn Llundain
Owain ap Tomas

Owain Lawgoch

GwyneddTywysog Cymru[19]1363[19]Llofruddiwyd Gorffennaf 1378[19]
Owain ap Gruffydd

Owain Glyndŵr

Powys, Deheubarth, GwyneddTywysog Cymru[3]1400[3]Bu farw 1415, yn 55-56 mlwydd oed ac fe gladdwyd yn gyfrinachol.

Tywysogion Anfrodorol, Saesniggolygu

Prif Erthygl: Tywysogaeth Cymru

Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Ers y Deddfau Uno ym 1536 a 1543 nid oes gan ddeilydd y teitl unrhyw rôl gyfansoddiadol yng Nghymru.

Yn 1911, penderfynodd bwyllgor yn San Steffan fod Cymru yn dywysogaeth ac nid yn frenhiniaeth ac felly ni ddylid cynnwys arfau Cymru yn arfau y Deyrnas Unedig. Yn 1912, ychwanegyd arfbais Cymru i gymryd lle un Saxony ar safon "Tywysog Cymru".[20]

Rhestr o Dywysogion Anfrodorol Cymru (Saesnig)golygu

  1. Edward o Gaernarfon 1301-1307
  2. Edward, y Tywysog Du 1343-1376
  3. Rhisiart o Bordeaux 1376-1377
  4. Harri Mynwy 1399-1413
  5. Edward o Westminster 1454-1471
  6. Edward mab Edward IV 1471-1483
  7. Edward o Middleham 1483-1484
  8. Arthur Tudur 1489-1502
  9. Harri Tudur 1504-1509
  10. Harri Stuart 1610-1612
  11. Siarl Stuart 1616-1625
  12. Siôr mab Siôr I 1714-1727
  13. Frederick 1729-1751
  14. Siôr mab Frederick 1751-1760
  15. Siôr y Rhaglyw Dywysog 1762-1820
  16. Albert Edward 1841-1901
  17. Siôr mab Edward VII 1901-1910
  18. Edward mab Siôr V 1910-1936
  19. Siarl Mountbatten-Windsor (1958-2022)[21]
  20. William Mounbatten-Windsor (2022 - )[22]

Cyfeiriadaugolygu

  1. Hanes Cymru, t. 138, John Davies, Penguin 1990
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Brut y Tywysogion". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2022-05-24.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 3.8 Davies, John (2007-01-25). A History of Wales (yn Saesneg). Penguin Publishing Group. ISBN 978-0-14-028475-1. Prince of the Welsh
  4. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. t. 24. ISBN 978-0-14-014824-4.
  5. 5.0 5.1 Huw, Pryce (1998). "Owain Gwynedd And Louis VII: The Franco-Welsh Diplomacy of the First Prince of Wales". Welsh History Review 19 (1): 1–28. https://journals.library.wales/view/1073091/1083764/4.
  6. 6.0 6.1 Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 84–86. ISBN 978-1-84771-694-1.
  7. Pryce, Huw (2010-10-15). The Acts of Welsh Rulers, 1120-1283 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 75. ISBN 978-0-7083-2387-8.
  8. 8.0 8.1 8.2 Pryce, Huw (2010-10-15). The Acts of Welsh Rulers, 1120-1283 (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 75, 96. ISBN 978-0-7083-2387-8.
  9. "Brut y Tywysogion". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2022-05-24.
  10. "Llywelyn ab Iorwerth", Dictionary of National Biography, 1885-1900 Volume 34, https://en.wikisource.org/wiki/Dictionary_of_National_Biography,_1885-1900/Llywelyn_ab_Iorwerth, adalwyd 2023-11-09
  11. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. tt. 321, 323. ISBN 978-0-14-014824-4.
  12. 12.0 12.1 Pryce, Huw (2010-10-15). The Acts of Welsh Rulers, 1120-1283 (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 78, 479. ISBN 978-0-7083-2387-8.
  13. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. tt. 22, 24, 49. ISBN 978-0-14-014824-4.
  14. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. tt. 384, 385, 386, 495. ISBN 978-0-14-014824-4.
  15. Davies, Dr John (2020). Accident or Assassination?The Death of Llywelyn 11th December 1282 (PDF). Abbey Cwmhir Heritage Trust.
  16. Nodyn:Cite DWB
  17. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. t. 386. ISBN 978-0-14-014824-4.
  18. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. t. 513. ISBN 978-0-14-014824-4.
  19. 19.0 19.1 19.2 Jones, John Graham (2014-11-15). The History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-1-78316-170-6.
  20. Carr, Harold Gresham; Hulme, F. Edward (Frederick Edward) (1961). Flags of the world. Internet Archive. London, New York, Warne. t. 33.
  21. Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, J.G. Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  22. "'Dim hast i arwisgo tywysog newydd Cymru, ac angen iddo ddysgu mwy am flaenoriaethau'r bobol'". Golwg360. Cyrchwyd 13 Medi 2022.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:SearchModiwl:ArgumentsAngkor WatCarles PuigdemontIslamHentai KamenYr Eglwys Gatholig RufeinigSex and The Single GirlDNANapoleon I, ymerawdwr FfraincLlundainBalŵn ysgafnach nag aerXxx: State of The UnionGwlad PwylWicipedia:CymorthDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodDadansoddiad rhifiadolArbennig:RecentChangesCastell TintagelDisturbiaWicipedia:Ynglŷn â WicipediaAsiaIncwm sylfaenol cyffredinolEagle EyeBig BoobsWicipedia:Y CaffiPupur tsiliIndonesiaUnol Daleithiau AmericaThe Salton SeaWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Gwadiad CyffredinolPeredur ap GwyneddSpecial:SearchYr AifftTrefynwyWicipedia:CyflwyniadRhyfel IracCategori:Dyfeisiau o FfraincCymraegCategori:Timau pêl-droed FfraincGerddi KewLlyffantFfilm llawn cyffroY FenniWicipedia:HawlfraintBogotáIndiaCymruSeren Goch BelgrâdLlong awyrAwyrennegAnna MarekFfwythiannau trigonometrigY BalaCaerfyrddinPenbedw27 MawrthIdi AminLZ 129 HindenburgCyfathrach rywiolAberteifiWiciadurKlamath County, OregonWici1576Cocatŵ du cynffongoch1528Sefydliad WicimediaDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgNetflixWrecsamCreigiauAbacwsHwlfforddMerthyr TudfulJohn Evans (Eglwysbach)Modern FamilyrfeecOregon City, Oregon2022Sgwrs:Balŵn ysgafnach nag aerReese WitherspoonMarianne NorthDinbych-y-Pysgod1499Michelle ObamaRobin Williams (actor)ClonidinHunan leddfuSefydliad WicifryngauDelwedd:XHamster logo.svgCatch Me If You CanCourseraWar of the Worlds (ffilm 2005)Categori:Materion cyfoes