Trais rhywiol

Mae trais rhywiol (hefyd treisio) yn golygu cael cyfathrach rywiol gyda rhywun heb eu cydsyniad. Cydsyniad yn y cyd-destun hwn yw bod rhywun yn cytuno i gael rhyw o'u hewyllys rydd eu hunain, heb ddim gorfodaeth. Mae treisio yn fath o gam-drin rhywiol, ac yn y rhan fwyaf o wledydd mae'n un o'r troseddau mwyaf difrifol.

Golygfa o dreisio gan Utagawa Kuniyoshi

Syniadau hanesyddol am dreisiogolygu

Syniad cyffredin o dreisio yw pan fydd dieithryn yn ymosod yn gorfforol ar ferch ac yn ei threisio. Er bod hynny'n digwydd, mewn llawer o achosion o dreisio mae'r treisiwr yn adnabod y dioddefwr. Yn y gorffennol, tybiwyd nad oedd modd i ŵr dreisio'i wraig; roedd tybiaeth bod cydysyniad awtomatig rhwng gŵr a gwraig, ac yn wir, yn hanesyddol, bu tueddiad i weld gwraig fel rhan o eiddo'i gŵr. Nid yw hyn yn wir bellach: mae treisio priodasol yn drosedd yng Nghymru a Lloegr ac mewn nifer gynyddol o wledydd ledled y byd.

Mae treisio yn digwydd yn erbyn merched a dynion.

Diffyg cydsyniadgolygu

Gall treisiwr ddefnyddio trais corfforol, cyffuriau neu fygythiadau er mwyn cael ei ffordd. Fodd bynnag, gall cyfathrach rywiol fod yn drais rhywiol heb fod ffrwgwd neu wrthwynebiad amlwg i'r gyfathrach, os nad oes cydsyniad. Nid yw peidio datgan cydsyniad ynddo'i hunan yn golygu diffyg cydsyniad os yw'r cyd-destun yn awgrymu'n eglur bod cydsyniad, ond mewn rhai achosion, nid yw dioddefwr mewn sefyllfa i gydsynio.

  • Ni all plentyn o dan 13 oed gydsynio i gael rhyw.
  • Ni all rhywun sy'n cysgu neu sy'n anymwybodol gydsynio i gael rhyw.
  • Os yw rhywun yn drwm o dan ddylanwad rhai cyffuriau (gan gynnwys diod gadarn) mae'n bosibl na allant gydsynio i gael rhyw.
  • Os yw rhywun yn dioddef o rai anableddau neu salwch sy'n effeithio ar eu meddwl, mae'n bosibl na allant gydsynio i gael rhyw.

Treisio yw cael rhyw â rhywun nad yw'n gallu cydsynio.

Mathau eraill o dreisiogolygu

  • Mewn rhai achosion, bydd sawl treisiwr yn ymosod ar un dioddefwr.
  • Mae trais yn y carchar — lle caiff carcharor ei dreisio gan gyd-garcharor, fel arfer — yn gyffredin.
  • Caiff treisio ei ddefnyddio fel arf rhyfel. Ers 1949, mae hyn yn drosedd rhyfel.

Effeithiau treisiogolygu

Heblaw am effeithau corfforol uniongyrchol trais rhywiol, gan gynnwys ymosodiad corfforol o bosibl, a risg o ddal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gall effeithiau seicolegol trais rhywiol fod yn anferth.

Gweler hefydgolygu

🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:SearchModiwl:ArgumentsAngkor WatCarles PuigdemontIslamHentai KamenYr Eglwys Gatholig RufeinigSex and The Single GirlDNANapoleon I, ymerawdwr FfraincLlundainBalŵn ysgafnach nag aerXxx: State of The UnionGwlad PwylWicipedia:CymorthDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodDadansoddiad rhifiadolArbennig:RecentChangesCastell TintagelDisturbiaWicipedia:Ynglŷn â WicipediaAsiaIncwm sylfaenol cyffredinolEagle EyeBig BoobsWicipedia:Y CaffiPupur tsiliIndonesiaUnol Daleithiau AmericaThe Salton SeaWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Gwadiad CyffredinolPeredur ap GwyneddSpecial:SearchYr AifftTrefynwyWicipedia:CyflwyniadRhyfel IracCategori:Dyfeisiau o FfraincCymraegCategori:Timau pêl-droed FfraincGerddi KewLlyffantFfilm llawn cyffroY FenniWicipedia:HawlfraintBogotáIndiaCymruSeren Goch BelgrâdLlong awyrAwyrennegAnna MarekFfwythiannau trigonometrigY BalaCaerfyrddinPenbedw27 MawrthIdi AminLZ 129 HindenburgCyfathrach rywiolAberteifiWiciadurKlamath County, OregonWici1576Cocatŵ du cynffongoch1528Sefydliad WicimediaDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgNetflixWrecsamCreigiauAbacwsHwlfforddMerthyr TudfulJohn Evans (Eglwysbach)Modern FamilyrfeecOregon City, Oregon2022Sgwrs:Balŵn ysgafnach nag aerReese WitherspoonMarianne NorthDinbych-y-Pysgod1499Michelle ObamaRobin Williams (actor)ClonidinHunan leddfuSefydliad WicifryngauDelwedd:XHamster logo.svgCatch Me If You CanCourseraWar of the Worlds (ffilm 2005)Categori:Materion cyfoes