Lleuen

(Ailgyfeiriad o Llau pen)

Pryfyn bach yw'r lleuen (lluosog: llau neu ) a cheir dros 3,000 gwahanol fath ohonyn nhw. Er mai pryfaid ydyn nhw, tydyn nhw ddim yn medru hedfan. Mae tri math wedi eu cofrestru fel 'Asiant cario Afiechydon Dynol'. Ectoparaseit ydyn nhw sy'n hoff iawn o waed mamaliaid. Er hyn tydyn nhw ddim i'w gweld ar Monotremes (y platypws a'r echidnas) na'r ystlum, y morfil, dolffiniaid y llamhidydd na'r pangolin.

Lleuen
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonurdd Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonExopterygota Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae llau pen yn bryfed bychain o faint pen pin – 2–4 mm o hyd (maint hedyn sesame). Maen nhw'n bryfed brown llwydaidd, heb adenydd ac maen nhw'n byw drwy sugno gwaed o groen pen yr unigolyn. Mae eu hwyau'n smotiau gwyn a elwir yn nedd ac maen nhw wedi'u gludo wrth waelod y gwallt. Mae'r wyau'n cymryd 10 diwrnod i ddeor ac aeddfedu, a gallant atgynhyrchu’n gyflym, 10 i 14 diwrnod ar ôl deor. Bydd eu niferodd yn tyfu'n gyflym os na chânt eu trin. Mae llau pen yn gyffredin mewn plant rhwng 4 ac 11 oed o ganlyniad i gysylltiad agos yn yr ysgol. Gall unrhyw un gyda gwallt byr neu hir ddal llau pen.

Mae trosglwyddo'n digwydd drwy gysylltiad agos pen â phen rhwng pobl. Mae llau ddim ond yn para'n fyw am ychydig funudau pan fyddant i ffwrdd oddi wrth ben dynol, ac ni chânt eu cario gan anifeiliaid anwes.

Symptomau a diagnosisgolygu

Y prif symptom yw cosi, yn enwedig y tu ôl i'r clustiau neu ar gefn y gwddf. Gall crafu parhaus beri i'r croen dorri, gan ganiatáu i heintiau eilaidd ddatblygu. Fodd bynnag gellir gweld arwyddion pla cyn i unrhyw symptomau ddatblygu – nedd yn y gwallt, ar flew a ddiosgwyd neu gribau; gobenyddion yn dangos bryntni anarferol o ganlyniad i dail llau.Gwneir diagnosis trwy gadarnhad gweledol o'r pla.[1]

Triniaethgolygu

Ceir dwy driniaeth bosibl:

  • Moddion pryfladdol
  • Cribo gwlyb (a elwir weithiau yn ‘ladd llau’)

Mae trwythau a siampŵau pryfladdol dros y cownter fel rheol yn cynnwys un o'r pryfleiddiaid canlynol dan amrywiol enwau:

  • malathion
  • phenothrin
  • permethrin

Cyfeiriadaugolygu

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:SearchModiwl:ArgumentsAngkor WatCarles PuigdemontIslamHentai KamenYr Eglwys Gatholig RufeinigSex and The Single GirlDNANapoleon I, ymerawdwr FfraincLlundainBalŵn ysgafnach nag aerXxx: State of The UnionGwlad PwylWicipedia:CymorthDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodDadansoddiad rhifiadolArbennig:RecentChangesCastell TintagelDisturbiaWicipedia:Ynglŷn â WicipediaAsiaIncwm sylfaenol cyffredinolEagle EyeBig BoobsWicipedia:Y CaffiPupur tsiliIndonesiaUnol Daleithiau AmericaThe Salton SeaWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Gwadiad CyffredinolPeredur ap GwyneddSpecial:SearchYr AifftTrefynwyWicipedia:CyflwyniadRhyfel IracCategori:Dyfeisiau o FfraincCymraegCategori:Timau pêl-droed FfraincGerddi KewLlyffantFfilm llawn cyffroY FenniWicipedia:HawlfraintBogotáIndiaCymruSeren Goch BelgrâdLlong awyrAwyrennegAnna MarekFfwythiannau trigonometrigY BalaCaerfyrddinPenbedw27 MawrthIdi AminLZ 129 HindenburgCyfathrach rywiolAberteifiWiciadurKlamath County, OregonWici1576Cocatŵ du cynffongoch1528Sefydliad WicimediaDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgNetflixWrecsamCreigiauAbacwsHwlfforddMerthyr TudfulJohn Evans (Eglwysbach)Modern FamilyrfeecOregon City, Oregon2022Sgwrs:Balŵn ysgafnach nag aerReese WitherspoonMarianne NorthDinbych-y-Pysgod1499Michelle ObamaRobin Williams (actor)ClonidinHunan leddfuSefydliad WicifryngauDelwedd:XHamster logo.svgCatch Me If You CanCourseraWar of the Worlds (ffilm 2005)Categori:Materion cyfoes