Iselder ysbryd

Mae iselder ysbryd yn afiechyd meddwl ble mae'r claf yn teimlo'n isel a di-hwyl; yn aml, mae'r afiechyd hwn hefyd yn gwneud iddo deimlo'n wael a dihyder, gan golli diddordeb yn y pethau sydd, fel arfer, yn ei gyffroi.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Paentiad olew gan Vincent van Gogh sy'n dwyn yr enw At Eternity's Gate

Yn 1980 gwahaniaethodd Cymdeithas Seiciatreg America ("American Psychiatric Association") rhwng iselder ysbryd dros dro (sef mental depression) ac iselder ysbryd dwys (Sa: Major depressive disorder) yn eu cyfrol "Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-III) Classification". Mae iselder ysbryd dwys yn medru analluogi, neu dynnu'r gallu arferol i gyflawni pethau oddi wrth y claf. Gall hyn effeithio teulu'r claf yn drychinebus, a'i waith neu addysg, ei gwsg, yr hyn mae'n ei fwyta a'i iechyd yn gyffredinol. Yn yr Unol Daleithiau, mae 3.4% o'r bobl hynny sydd gan iselder ysbryd dwys yn cyflawni hunanladdiad ac mae gan 60% o'r bobl hynny sy'n cyflawni hunanladdiad iselder ysbryd ar ryw raddfa. Mae sawl astudiaeth wyddonol wedi dod o hyd i gydberthyniadau ystadegol rhwng iselder a rhai plaladdwyr amaethyddol.[1]]

Triniaethgolygu

Mae sawl triniaeth posibl; gellir eu grwpio'n ddau: sef yr hyn mae meddygaeth gonfensiynol yn ei gynnig drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), ysbytai, meddygon ayb ar y naill law a meddyginiaeth amgen ar y llaw arall. Dengys ymchwil diweddar fod gan ymarfer corff le pwysig i chwarae yng ngwellâd y driniaeth.

Triniaeth gonfensiynolgolygu

Dyma'r driniaeth arferol, sef darparu meddygaeth gonfensiynol drwy'r GIG, ysbytai, meddygon ayb a cheir tri math gwahanol. Fel ymwelydd dyddiol y darperir y feddyginiaeth fel arfer ond gall y claf gael triniaeth fel 'inpatient' os oes perygl iddo niweidio ei hun neu eraill.

Seicotherapigolygu

Seicotherapi yw'r driniaeth a awgrymir fynychaf, a'r hyn mae'r claf yn ei ddewis fynychaf.

Meddyginiaethgolygu

Mae defnyddio "antidepressants" mor effeithiol â seicotherapi, bellach, er bod mwy o gleifion yn rhoi gorau i gymryd meddyginiaeth na sydd o gleifion yn rhoi gorau i seicotherapi, fel arfer oherwydd sgil-effeithiau.

Therapi "electroconvulsive"golygu

Pan nad oes dim arall yn gweithio, dyma'r gobaith olaf, neu'r driniaeth olaf i rai cleifion.

Triniaeth amgengolygu

Meddyginiaeth amgengolygu

Tybir fod rhai planhigion yn medru cynorthwyo'r claf; mae'r rhain yn cynnwys: lafant, saets y waun a jasmin.

Gweler hefydgolygu

Cyfeiriadaugolygu

  1. Gweler dolen 'Scientific articles' ar wefan Associazione per Far Conoscere Alcuni Danni dei Pesticidi Agricoli (erthyglau yn Saesneg)
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:SearchModiwl:ArgumentsAngkor WatCarles PuigdemontIslamHentai KamenYr Eglwys Gatholig RufeinigSex and The Single GirlDNANapoleon I, ymerawdwr FfraincLlundainBalŵn ysgafnach nag aerXxx: State of The UnionGwlad PwylWicipedia:CymorthDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodDadansoddiad rhifiadolArbennig:RecentChangesCastell TintagelDisturbiaWicipedia:Ynglŷn â WicipediaAsiaIncwm sylfaenol cyffredinolEagle EyeBig BoobsWicipedia:Y CaffiPupur tsiliIndonesiaUnol Daleithiau AmericaThe Salton SeaWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Gwadiad CyffredinolPeredur ap GwyneddSpecial:SearchYr AifftTrefynwyWicipedia:CyflwyniadRhyfel IracCategori:Dyfeisiau o FfraincCymraegCategori:Timau pêl-droed FfraincGerddi KewLlyffantFfilm llawn cyffroY FenniWicipedia:HawlfraintBogotáIndiaCymruSeren Goch BelgrâdLlong awyrAwyrennegAnna MarekFfwythiannau trigonometrigY BalaCaerfyrddinPenbedw27 MawrthIdi AminLZ 129 HindenburgCyfathrach rywiolAberteifiWiciadurKlamath County, OregonWici1576Cocatŵ du cynffongoch1528Sefydliad WicimediaDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgNetflixWrecsamCreigiauAbacwsHwlfforddMerthyr TudfulJohn Evans (Eglwysbach)Modern FamilyrfeecOregon City, Oregon2022Sgwrs:Balŵn ysgafnach nag aerReese WitherspoonMarianne NorthDinbych-y-Pysgod1499Michelle ObamaRobin Williams (actor)ClonidinHunan leddfuSefydliad WicifryngauDelwedd:XHamster logo.svgCatch Me If You CanCourseraWar of the Worlds (ffilm 2005)Categori:Materion cyfoes