Ioan Fedyddiwr

Sant Cristnogol; bedyddiwr yr Iesu

Proffwyd Iddewig sydd hefyd yn ffigwr pwysig mewn Cristionogaeth oedd Ioan Fedyddiwr (bu farw tua 30).

Ioan Fedyddiwr
Darlun o Ioan Fedyddiwr yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ganwydc. 4 CC Edit this on Wikidata
Ein Karem Edit this on Wikidata
Bu farwMachaerus Edit this on Wikidata
Man preswylanialwch Jwdea Edit this on Wikidata
Blodeuodd1 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl24 Mehefin Edit this on Wikidata
TadSechareia Edit this on Wikidata
MamElisabeth Edit this on Wikidata

Ceir hanes ei eni yn Efengyl Luc yn y Testament Newydd. Roedd yn fab i offeiriad o'r enw Sechariah a'i wraig Elisabeth, oedd yn oedrannus ac wedi bod hyd hynny yn ddi-blant. Mae pob un o'r pedwar Efengyl yn sôn amdano yn pregethu ac yn bedyddio yn Afon Iorddonen. Mae'n fwyaf enwog oherwydd iddo fedyddio Iesu a'i gydnabod fel y Meseia.

Dywed yr Efengylau iddo gael ei garcharu gan Herod Antipas, tetrach Galilea, ychydig fisoedd wedi iddo fedyddio Iesu. Dywedir fod hyn oherwydd iddo gondemnio priodas Herod a Herodias, gwraig i frawd Herod, Philip.

Yn ôl yr hanesydd Josephus, dienyddiwyd Ioan gan Herod i osgoi gwrthryfel. Yn ôl Efengyl Mathew, dawnsiodd merch Herodias, Salome, i Herod, a'i blesio gymaint nes iddo addo iddi unrhyw beth a ddymunai. Ei dymuniad oedd cael pen Ioan.

Ioan Fedyddiwr yw nawddsant Puerto Rico, ac enwyd y brifddinas, San Juan ar ei ôl. Ef yw nawddsant Canada Ffrengig hefyd, a dethlir ei ddydd gŵyl, 24 Mehefin, yn Québec fel y Fête nationale du Québec. Ef hefyd yw nawddsant dinas Porto, ail ddinas Portiwgal.

Ystyrir ef yn broffwyd yn Islam hefyd, ac mae traddodiad ei fod wedi ei gladdu ym Mosg yr Ummaiaid, Damascus.

Bedydd Crist (1449) gan Piero della Francesca
Bedydd Crist (1449) gan Piero della Francesca 
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:SearchModiwl:ArgumentsAngkor WatCarles PuigdemontIslamHentai KamenYr Eglwys Gatholig RufeinigSex and The Single GirlDNANapoleon I, ymerawdwr FfraincLlundainBalŵn ysgafnach nag aerXxx: State of The UnionGwlad PwylWicipedia:CymorthDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodDadansoddiad rhifiadolArbennig:RecentChangesCastell TintagelDisturbiaWicipedia:Ynglŷn â WicipediaAsiaIncwm sylfaenol cyffredinolEagle EyeBig BoobsWicipedia:Y CaffiPupur tsiliIndonesiaUnol Daleithiau AmericaThe Salton SeaWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Gwadiad CyffredinolPeredur ap GwyneddSpecial:SearchYr AifftTrefynwyWicipedia:CyflwyniadRhyfel IracCategori:Dyfeisiau o FfraincCymraegCategori:Timau pêl-droed FfraincGerddi KewLlyffantFfilm llawn cyffroY FenniWicipedia:HawlfraintBogotáIndiaCymruSeren Goch BelgrâdLlong awyrAwyrennegAnna MarekFfwythiannau trigonometrigY BalaCaerfyrddinPenbedw27 MawrthIdi AminLZ 129 HindenburgCyfathrach rywiolAberteifiWiciadurKlamath County, OregonWici1576Cocatŵ du cynffongoch1528Sefydliad WicimediaDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgNetflixWrecsamCreigiauAbacwsHwlfforddMerthyr TudfulJohn Evans (Eglwysbach)Modern FamilyrfeecOregon City, Oregon2022Sgwrs:Balŵn ysgafnach nag aerReese WitherspoonMarianne NorthDinbych-y-Pysgod1499Michelle ObamaRobin Williams (actor)ClonidinHunan leddfuSefydliad WicifryngauDelwedd:XHamster logo.svgCatch Me If You CanCourseraWar of the Worlds (ffilm 2005)Categori:Materion cyfoes