Fforwm Economaidd y Byd

Sefydliad anllywodraethol rhyngwladol yw Fforwm Economaidd y Byd sydd yn cynnal cyfarfod blynyddol, fel arfer yn Davos, cyrchfan iechyd a sgïo yng Nghanton y Grisons, y Swistir, ym mis Ionawr. Yno bydd nifer o wleidyddion, pobl busnes, llunwyr polisi, academyddion, undebwyr llafur, dyngarwyr, a phenaethiaid sefydliadau anllywodraethol blaena'r byd yn ymgynnull i drafod materion rhyngwladol, yn bennaf masnach ryngwladol a datblygu economaidd ond hefyd pynciau gwleidyddol a chymdeithasol. Lleolir pencadlys yr WEF ei hun yn Cologny, Canton Genefa.

Fforwm Economaidd y Byd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluIonawr 1971, 1971 Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddKlaus Schwab Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCoalition for Epidemic Preparedness Innovations Edit this on Wikidata
Gweithwyr550 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolfoundation Edit this on Wikidata
PencadlysCologny Edit this on Wikidata
Enw brodorolWorld Economic Forum Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.weforum.org/, https://es.weforum.org/, https://cn.weforum.org/, https://jp.weforum.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym 1971 trefnwyd cynhadledd i bobl busnes Ewropeaidd, a oedd yn bwriadu cystadlu â chwmnïau Americanaidd, gan Klaus Schwab, athro ym Mhrifysgol Genefa. Yn sgil llwyddiant y gynhadledd, sefydlodd Schwab y Fforwm Rheolaeth Ewropeaidd er mwyn hyrwyddo cyfarfodydd economaidd blynyddol yn Davos, cyrchfan fynyddig a ddewiswyd er preifatrwydd. Yn ddiweddarach ychwanegwyd materion gwleidyddol a chymdeithasol at agenda'r fforwm, ac ym 1976 gwahoddwyd i gynrychiolwyr o'r mil o gwmnïau mwyaf y byd fynychu'r cyfarfodydd blynyddol.[1]

Mabwysiadwyd yr enw Fforwm Economaidd y Byd ym 1987 i gwmpasu'r holl faterion rhyngwladol a drafodwyd yn ystod y cynadleddau, gan gynnwys tlodi, yr amgylchedd, a rhyfel.[1] Un o lwyddiannau'r WEF oedd y cytundeb anymosod a arwyddwyd gan Andreas Papandreou, Prif Weinidog Groeg, a Turgut Özal, Prif Weinidog Twrci, yn Davos ym 1988 er mwyn lleihau'r tensiynau rhwng y ddwy wlad. Yn Davos hefyd bu'r cyfarfod cyntaf rhwng gweinidogion o lywodraethau Gogledd Corea a De Corea ym 1989, y cyfarfod cyntaf rhwng Nelson Mandela, Llywydd yr ANC, ac F. W. de Klerk, Arlywydd De Affrica, ym 1992, a'r sesiwn i ddrafftio Cytundeb Gaza–Jericho ac felly sefydlu Awdurdod Cenedlaethol Palesteina ym 1994.

Yn niwedd y 1990au daeth yr WEF yn elyn i'r mudiad gwrth-globaleiddio, a chyhuddwyd y fforwm o ddifreinio gwledydd datblygol drwy hyrwyddo cyfalafiaeth a neo-ryddfrydiaeth fyd-eang. Gwrthwynebwyd yr WEF hefyd fel clwb yr elît, a bathwyd y term difrïol "Dyn Davos" gan y gwyddonydd gwleidyddol Samuel P. Huntington. Yn sgil protestiadau mawr yn erbyn yr WEF yn 2003, cyflwynwyd Fforwm Agored Davos i'w gynnal ar y cyd â'r brif gynhadledd, a gwahoddwyd mwy o sefydliadau anllywodraethol a gwledydd datblygol i Davos.

Yn ogystal â'r gynhadledd flynyddol yn Davos, mae'r WEF yn gweithio fel melin drafod ac yn lobïo dros ei argymhellion polisi. Lansiwyd sawl ymgyrch byd-eang gan yr WEF, gan gynnwys y Fenter Iechyd Byd-eang yn 2002 a chynllun yr Ailosodiad Mawr yn 2020.[2] Cyhoeddwyd nifer o adroddiadau ymchwil gan yr WEF.

Cyfeiriadaugolygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) World Economic Forum. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2021.
  2. "What we know about the Wuhan coronavirus and urgent plans to develop a vaccine for it". World Economic Forum (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Medi 2020.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:SearchModiwl:ArgumentsAngkor WatCarles PuigdemontIslamHentai KamenYr Eglwys Gatholig RufeinigSex and The Single GirlDNANapoleon I, ymerawdwr FfraincLlundainBalŵn ysgafnach nag aerXxx: State of The UnionGwlad PwylWicipedia:CymorthDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodDadansoddiad rhifiadolArbennig:RecentChangesCastell TintagelDisturbiaWicipedia:Ynglŷn â WicipediaAsiaIncwm sylfaenol cyffredinolEagle EyeBig BoobsWicipedia:Y CaffiPupur tsiliIndonesiaUnol Daleithiau AmericaThe Salton SeaWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Gwadiad CyffredinolPeredur ap GwyneddSpecial:SearchYr AifftTrefynwyWicipedia:CyflwyniadRhyfel IracCategori:Dyfeisiau o FfraincCymraegCategori:Timau pêl-droed FfraincGerddi KewLlyffantFfilm llawn cyffroY FenniWicipedia:HawlfraintBogotáIndiaCymruSeren Goch BelgrâdLlong awyrAwyrennegAnna MarekFfwythiannau trigonometrigY BalaCaerfyrddinPenbedw27 MawrthIdi AminLZ 129 HindenburgCyfathrach rywiolAberteifiWiciadurKlamath County, OregonWici1576Cocatŵ du cynffongoch1528Sefydliad WicimediaDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgNetflixWrecsamCreigiauAbacwsHwlfforddMerthyr TudfulJohn Evans (Eglwysbach)Modern FamilyrfeecOregon City, Oregon2022Sgwrs:Balŵn ysgafnach nag aerReese WitherspoonMarianne NorthDinbych-y-Pysgod1499Michelle ObamaRobin Williams (actor)ClonidinHunan leddfuSefydliad WicifryngauDelwedd:XHamster logo.svgCatch Me If You CanCourseraWar of the Worlds (ffilm 2005)Categori:Materion cyfoes